Dw i wedi cyrraedd yr oes newydd!!
Dach chi'n cael y pictiwr? Dw i wedi tyfu fy ngwallt, dechrau
siarad yn od "Heddwch dyn" ac yn y blaen. Mae'r
holl potiau blodau ar y balconi yn llawn o blanhigion canabis.
Mae papurau Rizla ar y rhestr siopa a dw i'n gwrthod bwyta
cig. Mae ffrindiau newydd cyrraedd mewn hen fws blodeuog ac
mae'r cymdogion yn cwyno.
Na, na peidiwch â bod yn wirion, nid yr oes newydd
yna dw i'n meddwl. Rhywbeth hen ffashiwn ydy'r oes newydd
yna a byddwch chi byth yn fy ngweld i yn gwisgo dillad lliw
pastel ac yn stwffio blodau yn fy ngwallt. Os gwelwch chi
fi fel 'na rhywbryd a wnewch chi addo i mi y byddwch yn galw'r
dynion mewn cotiau gwyn i edrych ar fy ôl i achos mi
fydda i wedi mynd yn ga-ga.
Na' beth dw i'n meddwl ydy'r byd bits a beits yma. Siarad
efo'r byd o'ch ystafell ffrynt, syrffio, e-bostio ac ati.
Ac mae'r holl beth wedi rhoi syniad i mi.
Ychydig o flynyddoedd yn ôl mi oeddwn i'n cyhoeddi
cylchlythyr i ddysgwyr o'r enw Y Wennol. Mi oeddwn i'n gwneud
hyn am dair mlynedd ac yn mwynhau'r profiad. Mi wnes i lawer
o ffrindiau, mi welais i safon ieithyddol llawer o'r dysgwyr
yn codi ac mi oeddwn i'n teimlo fy mod i'n gwneud tipyn bach
o gyfraniad tuag at yr iaith Gymraeg.
Ond yn y pendraw yr hen, hen broblem a wnaeth fy nghuro fi.
Roedd yn fwy a mwy amlwg mai dim ond pedair awr ar hugain
oedd mewn diwrnod! Roeddwn i'n gorfod ail deipio pob cyfraniad
(a dim ond dau fys sydd gen i, pan dw i'n teipio beth bynnag).
Doedd dim posibilrwydd cael rhywun arall i fy helpu achos
roedden ni i gyd yn byw mor bell i ffwrdd oddi wrth ein gilydd.
Ond efo'r wê mae'n bosib i bethau bod yn wahannol. Mi
gawn ni weld.
Dyma'r rhifyn gyntaf. Mae'r rhifyn nesaf yn dibynnu arnoch
chi. Dw i eisiau eich cyfraniad. Unrhyw beth. Tipyn bach o
waith cartref efallai. Dywedwch i mi am eich gwyliau, eich
gwaith, eich teulu. Does dim rhaid i chi drio bod yn glyfar,
rhywbeth syml sydd angen. A peidwch â phoeni am wneud
camgymeriad gramadegol (neu mistêc os liciwch). Mi wna
i drio fy ngorau i wneud yn siwr bod eich gwaith yn ddigon
agos i fod yn berffaith.
|