Mae 'na lawer o sôn y dyddiau yma am gamerâu
cyflymder a llawer o bobl wedi cael ei dal. Y rhan fwyaf ohonyn
nhw ddim wedi bod yn gyrru yn wyllt dros y limit ond trosedd
yw trosedd ac mae'r gosb yn llym. Mewn ychydig o flynyddoedd
ni fydd llawer o geir ar y ffordd o gwbl, mi fydd pawb yn
reidio beics, mi fyddan ni yn gwneud ein rhan i achub y byd
rhag y nwyon ty-gwydr. Hefyd mi fydd pawb yn ofnadwy o ffit.
Ta waeth, digon o adael i fy nychymyg rhedeg i ffwrdd ac
yn ôl at y pwynt. Mae 'na amgylchiadau lle mae'n anodd
iawn i ganolbwyntio ar y spîdomityr a hefyd ar y lôn
o'ch blaen a'r canlyniad yw bod rhai bobl yn cael ei dal lle
nad oedd bwriad i or-yrru o gwbl.
Clywais i'r stori yma ychydig o ddyddiau yn ôl:-
Roedd dau ynad wedi cael eu dal yn or-yrru a gan eu bod nhw
eisiau cadw y peth yn dawel ddaru nhw benderfynu clywed yr
achosion yn breifat. Felly safodd yr un ynad o flaen y llall.
"Dach chi wedi cael eich dal yn or-yrru." Meddai'r
ynad ar y fainc.
"Ydw, mae'n ddrwg gen i syr," meddai'r llall efo'i
ben i lawr mewn cywilydd.
"Iawn, wel peidiwch â gwneud o eto. Diryw o £60
a thri phwynt ar eich trwydded"
"Diolch yn fawr syr."
Dyma nhw rwan yn newid lle a'r un sgwrs yn mynd ymlaen eto.
"Dach chi wedi cael eich dal yn or-yrru." Meddai'r
ynad ar y fainc.
"Ydw, mae'n ddrwg gen i syr," meddai'r llall efo'i
ben i lawr mewn cywilydd.
"Iawn, wel peidiwch â gwneud o eto. Diryw o £100
a chwe phwynt ar eich trwydded"
"Howld on," meddai'r llall, "tydi hyn ddim
yn deg. Dim ond £60 a 3 phwynt nes i roi i chi!"
"Wel ia, dwi i'n gwybod ond mae 'na ormod o hyn yn mynd
ymlaen y dyddiau yma - dyma'r ail achos o'r fath y bore 'ma!"
|