Un o'r pethau sydd yn dda am y wê ydy'r ffaith eich
bod chi yn medru addasu pa bynnag ffeil dach chi'n ei dderbyn.
Mae'n bosib newid y teip, lliw y baneri a hyd yn oed cynnwys
y ffeil. A dyma neges i chi rw^an sydd ddim ond yn defnyddio
printer du a gwyn. Roedd rhywun wedi tynnu fy sylw at y faner
ar ben Y Wennol (pan oedd Y Wennol yn dwad atoch chi fel Word
attachment) a'r ffaith bod y faner yn dw^ad allan braidd yn
wan ar brinter du a gwyn. Yr ateb wrth gwrs yw newid y lliw
eich hunan cyn ei brintio allan. Tydi technoleg yn grêt!
Ac mae hyn yn fy atgoffa fi o'r hen ddyddiau pan wnaeth teledydd
lliw cael ei gyflwyno i'r byd. Roedd gan rhai bobl teledyddion
lliw ond yn y dechrau roedd rhan fwyaf o'r boblogaeth yn dal
i ddefnyddio y rhai du a gwyn ac wrth gwrs yn teimlo eu bod
nhw yn colli allan. Tybed beth oedd y rhaglenni
mwyaf poblogaidd yn y dyddiau yna? 'Black and White Minstrels'
neu yr hen ffilmiau hwyrach.
Roedd Val Doonican yn boblogaidd iawn ar y pryd a mi oedd
o yn dipyn bach o dynnwr coes. Roedd o'n gorffen ei raglen
yn eistedd mewn cadair siglo a bob tro roedd o'n gwisgo siwmper
wahanol, siwmper liwgar. Un tro wnaeth o droi at y camera
ac esbonio i'r gwylwyr du a gwyn pa liwiau oedd ar y siwmper.
Y jôc fawr wrth gwrs oedd y ffaith mai siwmper du a
gwyn roedd o'n gwisgo y tro yna!
Beth sydd wedi ddigwydd i'r hen Val deudwch?
A chwestiwn arall. Oes 'na gwell gair na siwmper? Dan ni'n
cael yr un broblem efo'r gair cardigan hefyd ond o leiaf fedran
ni ddefnyddio y gair aberteifi. Ummm? Ummmm?
|