Dwi yma yn syllu ar hanner potel o wisgi, hynny yw potel
a'i hanner yn cynnwys wisgi ac yr hanner yna ar y gwaelod
wrth gwrs. A dyna dôn yr erthygl wedi ei osod rw^an
felly peidiwch â theimlo bod rhaid i chi ddarllen ymhellach.
Beth bynnag mae syllu ar y botel yn achosi i fy meddwl grwydro.
Dach chi'n gwybod beth yw'r gwahaniaeth rhwng optimist a phesimist?
Wel mae pesimist yn gweld hanner potel o wisgi yn hanner gwag
tra bod optimist yn gweld y botel yn hanner llawn. I chi sydd
yn llwyrymwrthodwyr mae'n gweithio yn yr un fath efo potel
o lemonêd, dwr, llefrith neu sudd oren hefyd. Chi'n
gweld doeddwn i ddim eisiau i chi deimlo allan o'r peth.
Rwan dyma conyndrym i chi. Mae dyn a'i wraig wedi mynd allan
rhyw bnawn Sadwrn ac wedi gweld coeden ceiriosen mewn canolfan
garddio. Roedden nhw wedi bod yn chwilio am goeden o'r fath
i roi ganolbwynt i ryw gornel o'r ardd. Mi wnaeth pres newid
llaw ac i ffwrdd â nhw adref yn ofalus iawn efo'r goeden
yn sticio allan trwy do haul y car. Mae'r wraig wedi penderfynu
yr union le i'w rhoi ac yn rhoi orchymyn i'r gw^r i wneud
twll digon mawr i ddal gwreiddiau'r goeden yn gyfforddus.
Rw^an mae'r gw^r yn gorwneud pethau fel arfer a phan ddaeth
y wraig allan o'r ty^ wedi iddi gynhesu ei hyn o flaen llwyth
o dân ac yfed paned o de wrth wylio rhyw raglen gwis
ar y teledu roedd hi'n fud gan syndod. " Howld on,"
medda hi, "mae'r twll yna yn rhy ddwfn, mi fydd rhaid
i ti ei hanner lenwi." "Amhosib," meddai'r
gw^r, "nid efo'r pridd dwi i wedi tynnu allan."
"Paid â bod mor wirion." meddai'r wraig. "Na,
na, twll di twll, te!" medda fo a mynd ymlaen i esbonio,
"Taswn i'n rhoi'r pridd yn ôl mi fydd y twll yn
dal yno ond mi fydd yn llai ac felly mi fydd hanner y twll
yn llai a phob tro i mi daflu llond rhaw o bridd i mewn mi
fyddwn i'n agosach at hanner ei lenwi ond mi fydda i byth
yn cyrraedd yr hanner." "O ia, dwi'n gweld dy broblem,"
medda hi ac ar ôl meddwl am dipyn aeth i nôl y
beipen dwr a hanner llenwi'r twll. "Dyna ti," medda
hi, "rho ddigon o bridd yn ôl tan i'r dw^r cyrraedd
y top ac mi a i i mewn i wneud hanner paned o de i ti!"
Ond dwi'n crwydro. Yn ôl at y botel o wisgi, i ddweud
y gwir roeddwn i'n meddwl am y gwahanol ffyrdd o edrych ar
bethau cyn i mi gael gipolwg ar gyflwr y botel. Chi'n gweld
roedd rhaid i mi fynd i'r garej i chwilio am rywbeth y pnawn
'ma ac wrth i mi gau'r drws mi sylweddolais fod y beic modur
yn edrych yn od ac wrth edrych arni yn fwy manwl mi welais
fod gen i byncjar yn y teiar cefn. Rw^an dydy bethau fel hyn
ddim yn hawdd i ddatrys efo beiciau modur. Does 'na ddim olwyn
sbâr a sut dwi'n mynd i'r Drenewydd am deiar newydd
dwi jest ddim yn gwybod. Ond wedyn optimist ydw i ynte! Felly
dydy pethau ddim mor ddrwg â hynny. Doedd y teiar ddim
ond yn fflat ar y gwaelod!
|