Yn ddiweddar roeddwn i yn Aberystwyth am y diwrnod. Wel os
yn Aber mae'n rhaid mynd i Siop y Pethau i bori trwy'r silffoedd
am lyfrau. Dw i'n synnu faint o lyfrau sydd ar gael yn yr
iaith Gymraeg a phob tro dw i yno dw i'n dwad ar draws nofel
newydd felly mae'n rhaid tynnu'r waled allan o'r boced unwaith
eto. Does dim syndod mod i mor dlawd!
Dyna fi yn jyglo efo fy sbecs, un pâr er mwyn gweld
beth sydd ar y silffoedd a'r pâr arall er mwyn gwneud
y gwaith mwy manwl o ddarllen ambell i baragraff i drio cael
blas y nofel ac wrth i mi wneud hyn roedd rhyw sgwrs od iawn
yn mynd ymlaen yn y cefndir a doeddwn i ddim yn deall. Gadewch
i mi esbonio. Dw i wedi bod yn gwsmer y siop am flynyddoedd
ac mae'r merched sydd yn gweithio yno wedi bod yno ers i mi
gofio ac erbyn hyn baswn i'n disgwyl eu bod nhw'n gwybod pob
dim am ei gilydd. Ond nid felly yn ôl y sgwrs rôn
i'n clywed. Dyma'r sgwrs:
"Does gen i ddim mam." Meddai un.
"Reit" meddai'r llall.
"Does gen i ddim brawd." Meddai'r un.
"Reit." Meddai'r llall.
"Does gen i ddim mam-gu." Meddai'r un.
"Reit." Meddai'r llall.
Wrth ystyried bod y merched yma wedi bod yn gweithio efo'u
gilydd am flynyddoedd roedd y sgwrs yma yn od ofnadwy a dw
i'n siwr eich bod chi'n cytuno. Erbyn hyn byddech chi'n disgwyl
iddyn nhw wybod pob dim am ei gilydd yn enwedig pethau i wneud
â'r teulu. Ar ben hynny doedd 'na ddim elfen o gydymdeimlad
yn yr ateb. Basech chi'n disgwyl o leiaf rhywbeth fel "O
mae'n ddrwg gen i glywed hynny" ar ôl datganiad
mor drist.
Dim ond pan es i at y cownter i dalu wnes i sylweddoli mai
tsiecio stoc y cardiau pen-blwydd oedden nhw!
|