Mae'r sgil o ddyfalu yn holl bwysig pan dach chi'n dysgu
iaith. Hwyrach bod y dyfaliad cyntaf braidd yn bell o fod
yn gywir ond mae'r ffaith eich bod chi wedi dyfalu yn bwysig.
Creu lluniau yn eich meddwl dach chi wrth ddarllen ac mae'r
darlun sy'n cael ei greu yn wahanol ym meddwl pob darllenwr.
Rw^an, dw i'n dysgu yn Llanandras a Weobley, mae Llanandras
ar ochr Cymru o'r ffin a Weobley ddim yn rhy bell o Henffordd
yn Lloegr. Mae 'na amser yn dw^ad mewn pob dosbarth dwi i'n
credu, pan maen rhaid defnyddio yr iaith er mwyn troi yr iaith
dach chi wedi dysgu i fod yn iaith ymarferol. Mae hyn yn rhyddhau
lle yn yr ymennydd i ragor o iaith ddamcaniaethol (yn fy marn
ddiymhongar i). Gobeithio eich bod chi yn deall beth dw i'n
trio dweud. Mae dysgu Cymraeg yn anodd i ddechrau ond yn haws
unwaith dach chi'n dechrau ei ddefnyddio. Dyna pam bod y ffordd
o ddysgu Cymraeg y dyddiau hyn mor llwyddiannus.
Wel yn ôl at Lanandras a Weobley. Does 'na ddim Cymraeg
yno o gwbl, mae Radio Cymru a hefyd S4C yn anodd ei derbyn
felly faint o gyfle sydd ganddyn nhw i ymarfer yr iaith yn
naturiol? Dim llawer! I ddw^ad dros y broblem yma dw i'n eu
hannog nhw i ddarllen Cymraeg a dw i'n falch o ddweud bod
'na lyfrau arbennig o dda ar gael i ddysgwyr rw^an. Nid llyfrau
plant ydyn nhw ond llyfrau efo storïau go iawn wedi ei
sgwennu mewn ffordd hawdd ei ddarllen.
Ar hyn o bryd dan ni'n darllen y llyfr 'Bywyd Blodwen Jones'
gan Bethan Gwanas a dw i'n gofyn i'r dysgwyr ganolbwyntio
ar greu darlun pan dw i'n darllen darn am y tro cyntaf (yn
eu pennau, wrth gwrs). Wedyn mae nhw'n cymharu'r darlun efo'r
darlun go iawn ar ôl i mi fynd trwodd yr ail waith a'i
gyfieithu. Mae'r canlyniad weithiau yn gallu fod yn ddigri
dros ben.
Dyma ddwy enghraifft. Mae Blodwen yn dysgu Cymraeg yn y dosbarth
nos ac mae hi wedi syrthio mewn cariad â'r tiwtor, peth
annoeth dros ben i'w wneud. Enw'r tiwtor ydy Llew. Mi fuasai
Blodwen yn hoffi mynd i'r dafarn ond dydy hi ddim eisiau mynd
ar ei phen ei hyn ac mae hi'n cael y syniad o drio cael Llew
i fynd efo hi. Roeddwn i wedi darllen y darn yma yn y Gymraeg
ac ar ôl i mi ei gyfieithu ro'n i'n sylweddoli bod golau
wedi taro ar un o'r dysgwyr. Roedd o wedi cymysgu enw'r tiwtor
ac enw'r anifail felly roedd wedi dychmygu Blodwen druan yn
cerdded i mewn i'r dafarn efo llew!
Mae 'na ddarn arall lle mae Blodwen yn sôn am ei chath
HRH ac yn dweud bod HRH yn cerdded i ffwrdd efo'i thrwyn yn
yr awyr ac un ddysgwraig wedi creu darlun o gath yn cerdded
i ffwrdd efo 'throne' yn yr awyr - roedd hi wedi drysu'n llwyr!
Ond cyn belled â'ch bod chi'n medru chwerthin am y pethau
hyn mae'r camgymeriadau 'ma yn rhan bwysig o ddysgu iaith.
Does dim rhaid i chi fod yn hollol berffaith y tro cyntaf
a thrïwch beidio defnyddio'r geiriadur ar gyfer pob gair
diarth - trïwch ddyfalu a chael y stori i redeg pa bynnag
darlun dach chi'n creu. Pan dach chi wedi llwyddo i ddarllen
y llyfr rhowch y llyfr i un ochr am ryw bythefnos wedyn darllenwch
y llyfr yr ail waith ac mi fyddech chi'n synnu faint dach
chi'n deall yr ail dro.
Felly ewch ati rw^an! Ewch i'r siop llyfrau lleol a phrynwch
y llyfr 'Bywyd Blodwen Jones' gan Bethan Gwanas. Os dach chi'n
bell o siop llyfrau Cymraeg wedyn ewch at safle y cyhoeddwyr
a phrynwch y llyfr dros y wê.
http://www.gomer.co.uk/
Mae'r llyfr dan adran 'Llyfrau Nawr'. Mwynhewch a gadewch
i mi wybod beth dach chi'n meddwl o'r llyfr.
|