Gorffennaf 2001
Euogrwydd - yr ateb
 

 

Pob hyn a hyn mae euogrwydd yn eich taro, efallai fod 'na rywbeth dach chi'n neud na ddylech chi neud neu'r ffordd arall rownd. Un o'r pethau mwyaf cywilyddus y dyddiau hyn, wrth gwrs, ydy'r tunelli o wastraff sydd yn mynd yn ddyddiol i lenwi ryw hen chwarel yn y wlad. Dw i'n siw^r eich bod chi yn teimlo'r un fath ond y broblem yw mae ein ffordd ni o fyw yn ein rhoi ni mewn sefyllfa lle yn aml iawn does dim ffordd arall. Bagiau plastig ar gyfer pob dim, cling ffilm, pethau mewn pacedi, poteli plastig ac yn y blaen. Mae'n wir bod llawer ohonon ni yn sortio popeth cyn eu taflu i ffwrdd - y poteli, caniau, plastig, papur a hyd yn oed gwastraff o'r ardd. Tydi hynny ddim yn beth anodd i'w wneud ond mae'n syndod ac yn siom faint o bobl sydd wir ddim eisiau gwybod.

Tydi ailgylchu ddim yn beth newydd o bell ffordd. Yn yr hen ddyddiau roedden ni i gyd yn ei wneud pob dydd, hynny yw yn y dyddiau pan oedd y dyn llefrith yn galw heibio efo'r peintiau beunyddiol. Ond y dyddiau yma mae rhan fwyaf o'r llefrith yn cael ei brynu yn yr archfarchnad a tydi gasglu'r poteli gwag yn ôl ddim yn rhan o'r ffordd maen nhw'n gweithio. Na, y dyddiau yma mae ein llefrith yn dw^ad mewn potel blastig ac er bod canran o'r poteli yn cael ei ailgylchu mae llawer gormod yn cael ei gladdu.

Dylwn ni i gyd teimlo'r euogrwydd. Ond beth i'w wneud? Wel, mae wedi bod yn rai flynyddoedd rw^an ers i mi gael fy nharo gan yr ateb ond chwarae teg dw i wedi sticio efo'r egwyddor yn di ffael o'r dechrau cychwyn. Y peth a rhodd y syniad gwreiddiol i mi oedd y ffaith bod y siopau yn gwerthu llefrith mewn plastig a theimlais yr angen i wneud rhyw fath o safiad - ar ei ben ei hun tydi o ddim llawer wrth gwrs ond os fedrwn ni i gyd sefyll yn gadarn efo'n gilydd mae'n bosib gwneud gwahaniaeth.

A beth ydw i wedi ei wneud? Wel yn syml iawn dw i wedi rhoi'r gorau i yfed llefrith a dw i'n gofyn i chi wneud yr un peth. Ond wrth gwrs mae'n rhaid cadw cydbwysedd - tydi o ddim yn ddigon i wneud rhywbeth negyddol, i fod yn wir effeithiol mae'n rhaid gwneud rhywbeth cadarnhaol hefyd, felly roeddwn i'n chwilio am ffordd o ddefnyddio mwy o wydr ac ar ôl oriau byr o bendroni mi ges i'r ateb - mae 'na rywbeth sydd yn dal ar gael mewn potel - mae 'na amrywiaeth o liwiau i'r poteli a lliw y cynnwys yn amrywio o gwyn i goch. Mae yfed yr hylif yma yn eich llenwi efo hapusrwydd - yr hapusrwydd sydd yn tarddu o'r gwybodaeth pendant eich bod chi yn chwarae eich rhan.

Felly - iechyd da, iechyd da ac unwaith eto - iechyd da!