Mawrth 2001
Gobaith y Gwanwyn
 

 

Wel, mae'r eirlysiau allan ac er ein bod ni yn cael ambell i sbel oer a gwyntog dan ni'n gwybod bod y Gwanwyn ar y ffordd. Es i i lawr i weld Mam a Dad yn St Florence, ger Dinbych y Pysgod, dydd Sul diwethaf a fedra i ddweud wrthoch chi fod fy nhad yn barod. Chi'n gweld garddwr ydy fy nhad ac wrth gwrs y Gwanwyn ydy tymor pwysicaf y flwyddyn. Mae bron holl gnydau llynedd wedi cael eu clirio - dim ond cennin, ysgewyll Brysel a rwdins sydd ar ôl. Yn barod mae'r tatws hadyd wedi dechrau eu siwrne o'r sbot o dan y gwely lle wnaethon nhw flaguro ac wedi cyrraedd un o'r tai gwydr. Bob nos mae'r 'fleece' yn eu gorchuddio er mwyn eu cadw yn gynnes ac unwaith mae'r pridd wedi cynhesu mi fydden nhw allan fel sowldiwrs ar wely o dail mewn rhes yn yr ardd. Mae fy nhad wrth ei fodd, Mam hefyd achos mae hi'n gwybod ei bod hi'n sicr o gael llysiau diogel a blasus i'w roi ar y bwrdd.

Mae 'na wyrthiau i'w gweld yn yr ardd, gwyrthiau sydd ddim ond yn amlwg i'r rhai sydd yn cymryd rhan yn y broses o weithio efo natur i dyfu bwyd. Wrth brynu llysiau yn yr archfarchnad mae'n hawdd iawn cymryd yr holl broses yn ganiataol ond mae'r garddwyr wedi prynu holl gnwd y flwyddyn yn barod - mewn pecynnau bach o hadau. Pob hedyn gyda chymorth gwres a gwlybaniaeth y pridd yn torri trwy wyneb y pridd i dyfu ymlaen yng ngwres yr haul. Y garddwr wedyn yn sicrhau bod y planhigyn yn tyfu'n gryf heb gystadleuaeth oddi wrth chwyn.

Pryd bynnag dach chi'n edrych ar yr ardd does dim llawer yn digwydd felly mae'n anodd esbonio y teimlad o gyffro. Ond mae'n gyffroes - chi'n gweld does 'na ddim sicrwydd, mae pob blwyddyn yn wahanol. Beth fydd yn llwyddo? Beth fydd yn methu? Ond yr adeg yma o'r flwyddyn mae pob siom y flwyddyn gynt wedi ei anghofio. Mae'r flwyddyn newydd yn dechrau!

O, gyda llaw - neges i Allan Bailey a phawb sydd yn byw ochr arall i'r byd - darllenwch y darn yma mewn chwe mis. Wps, rhy hwyr - dach chi wedi darllen yn barod!