Ionawr 2002
Lwcosed
 

 

Mae Cymru wedi gwneud cyfraniad mawr i'r byd yma dros y blynyddoedd ond gan ein bod ni mor ddiymhongar does fawr neb yn sylweddoli hyn. Ond mae'n hen bryd i ni ddechrau hawlio rhai o'n cyfraniadau rhag ofn i rywun arall dwyn y clod amdanyn nhw.

Roeddwn i'n gwybod yn iawn o ba genedl daeth y peth yma ac roeddwn i'n meddwl bod pawb arall yn ymwybodol o hyn hefyd ond wedyn mi wnes i ddechrau amau - chi'n gweld hysbysebu a marchnata fyd eang sydd ar fai ac fel o'n i'n dweud dyn ni, fel cenedl, mor ddiymhongar. Cymaint weithiau dw i'n teimlo ein bod ni yn mynd yn ddi-hyderus.

Beth bynnag digon o'r rwdlan gwirion. Roedd hi'n ddiwrnod braf ym mis Medi ac roeddwn i wedi penderfynu mynd allan ar y beic - roedd 'na lôn gul yn yr ardal doeddwn i ddim wedi ei archwilio, felly ffwrdd â fi. Doedd y rhan gyntaf o'r daith ddim y gorau dw i wedi cael achos roedd rhaid seiclo ar yr A470 o Bontnewydd i Gwmbach Rhechlyd - wps, sori, Cwmbach Llechryd. Well i mi gyfeirio at y lle fel Cwmbach er mwyn bod yn hollol saff. Yng Nghwmbach mae 'na lôn gul sydd yn mynd at y lôn rhwng Llandrindod a Llanfair ym Muallt. Croesi'r lôn yna a dyna'r lôn o'n i eisiau archwilio. Roedd yn bleser seiclo ar y lôn yma, mae'n hollol yn y wlad a dim ceir. Yr unig beth ydy dringo mae'r lôn felly mae'n rhaid gweithio trwy'r amser.

Un peth nodweddiadol o seiclwr pan mae o'n gweithio'n galed ar y pedalau ydy bod ei ben i lawr bron trwy'r amser, mae'n help i ganolbwyntio chi'n gweld. Dach chi'n gweld llawer o sbwriel, wrth gwrs, achos hyn. Beth welais i oedd potel wag o Lucozade - dach chi'n cofio y ffisig yna oedden ni'n mwynhau cael pan oedden ni'n sâl ers talwm? Erbyn hyn mae'r ddiod wedi cael ei ail-frandio a phellach mae'r marchnata yn canolbwyntio ar yr hylif fel diod sydd yn rhoi cic i athletwyr.

Ond does dim llawer o bobl yn sylweddoli bod yr hylif yma a'i wreiddiau yng Nghymru.

Roedd John Parri yn ddyfeisiwr enwog o Lanallgo, a dweud y gwir fo ydy un o'r ddau berson enwog sydd yn dwad o'r plwyf yna yn sir Fôn. Fel fi, roedd o'n hoff iawn o seiclo. Rwan dydy sir Fon ddim yn enwog iawn am ei mynyddoedd felly roedd o'n meddwl bod o'n gwneud yn reit dda. Hynny yw tan iddo groesi'r bont i sir Gaernarfon. Mewn dipyn o amser roedd ei egni wedi mynd ac roedd rhaid iddo stopio ar ochr y lôn am sbelan. Fel maen digwydd roedd 'na hogan ifanc yna yn bwydo ceffyl efo lympiau o siwgr. Edrychodd hi arno fo yn chwysu ac yn trio cael ei wynt yn ôl ac yn ei thrugaredd cynigiodd hi lwmpyn iddo fo. Yn wyrthiol, mewn llai na munud, roedd ei egni yn ôl, roedd o'n teimlo'n grêt. Diolchodd o'r hogan a ffwrdd â fo fwl pelt yn ôl i Lanallgo heb stopio.

Ar ôl cael ei swper roedd o'n eistedd yn meddwl am ddigwyddiadau'r dydd a dyna pryd wnaeth o sylweddoli gwerth y glwcos sydd yn rhan o'r siwgr. Aeth ati i greu yr hylif dan ni rwan yn adnabod fel Lucozade ond, wrth gwrs, Glwcosêd oedd y ddiod yn wreiddiol. Roedd ar werth ym mhob man yng Nghymru. Roedd y wlad yn hollol Cymraeg adeg hynny felly yng Nghymraeg roedden nhw'n gofyn amdano.

"Ga i botel o Glwcosêd os gwelwch yn dda?" oedd y frawddeg oedd yn cael ei glywed trwy'r amser tan i ryw aelod o'r heddlu iaith mynnu bod rhaid treiglo ar ôl 'o'.

A dyna sut wnaeth yr enw newid i Lwcosêd.

A rwan dach chi'n gwybod.