Dyna lle roeddwn i yn Henffordd am y chweched tro mewn llai
nag wythnos. Roeddwn i wedi cael mân broblemau efo'r
cyfrifiadur - negeseuon fel 'service profile is damaged -
please replace the service profile', feirws doeddwn i ddim
yn medru cael gwared ohonno (er roedd y feirws dan reolaeth),
methu cysylltu efo'r dreif 'back-up' ac yn y blaen. Doeddwn
i ddim eisiau mynd trwy'r holl hunllef o drio cael sens allan
o 'Tiny Computers' a gan fod Windows xp newydd dwad allan
ac roedd PC World yn cynnig ei lwytho a hefyd ar yr un pryd
siecio'r cyfrifiadur am bris rhesymol, ffwrdd â fi i
Henffordd.
Wrth gwrs fel mae'n digwydd mor aml unwaith dach chi'n dechrau
does 'na ddim stop. Mae PC World wedi bod yn arbennig o dda
ond, fel ron i'n dweud roeddwn i yna am y chweched tro. Roeddwn
i wedi gadael y ty heb frecwast felly es i i'r caffi yn Sainsbury's
am goffi, ffrei yp a hanner awr i ddarllen y papur. Roedd
y brecwast yn iawn er nad oedd y selsig wedi cael eu coginio
llawer, dw i'n meddwl ei bod nhw wedi stemio'r bacwn (ond
dyna ni efallai fod nhw'n meddwl bod y dull yna yn fwy iachus
na ffrio). Roedd melyn yr wy yn agos i fod yn galed ond dim
cweit ac roedden nhw wedi fylcaneiddio'r gwyn yn berffaith.
Roedd y bîns yn grêt.
Roedd y brecwast wedi ei orffen a'r coffi bron wedi ei yfed
i gyd a finnau yn ddwfn mewn rhyw erthygl pan glywais i lais
o' mlaen.
"Scuse me, is this seat taken?" Edrychais i fyny
a gweld dyn ifanc efo'i law ar y gadair gyferbyn.
"No." Medda fi, yn meddwl efallai ei fod yn brin
o un gadair wrth ryw fwrdd arall. "Help yourself."
A rhywsut, o nunlle daeth dwy hen wraig, sâl eu golwg
a phloncio eu hunain cyferbyn â fi. Yn amlwg roedd y
dyn ifanc yn meddwl am eistedd wrth fy ochr a gan mai wal
oedd ar fy ochr arall na faswn i wedi medru dianc.
Gan feddwl efallai fod 'na brinder o fyrddau mi nes i godi
i fynd ac, wrth godi, dal llygad dynes oedd yn eistedd ar
ei phen ei hun ar y bwrdd arall, hithau yn gwneud ystumiau
i ddangos ei bod hi wedi synnu efo'r holl beth. Wrth gerdded
tuag at y drws ac edrych o gwmpas sylweddolais fod llawer
o'r byrddau yn wag. Tybed pam oedden nhw eisiau eistedd wrtha
i? Efallai oedden nhw'n regiwlars ac eu bwrdd nhw oedd hi,
dwn i ddim. Ond eto efallai fod gen i ryw fath o ffors magnetig.
Mae'n debyg na fydda i byth yn gwybod yr ateb.
O wel.
May the ffors be with you! Ciaou.
|