Mae eistedd yma yn paratoi Y Wennol yn deimlad rhyfedd iawn.
Mae 'na erthyglau yn dw^ad i mewn, dwi i'n gweithio arnyn
nhw i greu rhifyn o'r Wennol ac ar ddiwedd hyn i gyd dwi'n
ei gyhoeddi i'r byd. Ond fedra i wneud hyn i gyd heb adael
y ty^ a chyn i chi ddweud "Trist iawn, very sad"
maen rhaid i mi ddweud dydw i ddim wrth gwrs. Y pwynt dwi
i'n trio gwneud ydy does dim rhaid i mi boeni am faint o gopïau
maen rhaid i mi argraffu, does dim rhaid i mi ei blygu a'i
stwffio nhw mewn amlenni. Does dim rhaid i mi fynd i'r swyddfa
bost. Mae tipyn bach fel rhoi neges mewn potel a'i taflu i'r
môr - dydych chi ddim yn cael ateb yn syth. Dwi wedi
cael ateb wrth gwrs, mae hen ffrindiau wedi bod yn gefnogol
iawn efo erthyglau, ond, beth roeddwn i'n ysu amdano oedd
cyfraniad o'r ochr arall i'r byd. Wel fedra nhw ddim dw^ad
o le pellach na Canberra, Awstralia. Mae erthygl Allan Bailey
yn y rhifyn yma. Os dach chi'n cofio roedd llythyr gan Allan
yn y rhifyn diwethaf ac mae o wedi dweud ei fod wedi cael
yr hyder i ysgrifennu'r erthygl ar ôl gweld ei lythyr
ar y wê.
Wel rw^an, beth am y lleill ohonoch chi? Oes 'na gyfraniad
ar y ffordd o'r Unol Daleithiau, Siapan, Canada, Sbaen, Norwy,
Rwsia?
Mae'r mis diwethaf wedi bod yn brysur iawn rhwng un peth
a'r llall. Roedd 'na ysgol penwythnos yng Ngregynog ar ddechrau'r
mis ac wedyn roedd rhaid i mi fynd am benwythnos i Ddulyn
(wel, doedd dim rhaid i mi fynd ond mae'n anodd iawn gwrthod
gwahoddiad o benwythnos sydd yn cynnwys llawer fawr o Guiness
a Jamiesons a cherddoriaeth Wyddelig. Yn anffodus roedd y
penwythnos ar yr un amser â thaith cerdded Liz yn Llanfair
Caereinion. Ddoe roeddwn i'n sefyll o flaen dosbarth o ddeunaw
o ddysgwyr yn Llanfair ym Muallt ac arbennig o dda roedden
nhw hefyd.
Ac mae rhywun yn dweud bod y Nadolig ar y ffordd. Brensiach
annwyl mae'r flwyddyn bron drosodd. Ac mae hynny yn fy atgoffa
i mi fydd yr ail fileniwm drosodd diwedd y mis yma (Rhagfyr
2000). Rhyfedd iawn sut roedd pawb yn dathlu ar ddiwedd y
flwyddyn ddiwethaf!
|