Dwn i ddim amdanoch chi (pwy bynnag ydach chi) ond pan dw
i'n cyrraedd y rhan o'r cwrs Cymraeg lle dan ni'n trafod 'Taswn
i-, mi faswn i-,' dw i'n gollwng ochenaid - "O na, dim
eto" achos yr un hen beth diflas dan ni'n mynd trwyddo
bob tro sef - "Taswn i'n ennill y lotri mi faswn i'n
mynd am griws rownd y byd" a "Beth fasech chi'n
gwneud tasech chi'n ennill y lotri?" Trist iawn, feri
sad os oes rhaid i chi ennill y lotri i wireddu rhyw freuddwyd.
Ar ôl pob sesiwn dw i'n dweud wrth fy hun "Mae'n
rhaid i mi feddwl am ryw batrwm mwy diddorol." Ond wrth
gwrs dydw i ddim achos y tro nesaf yr un, un ochenaid dw i'n
cael wrth ddilyn yr un, un patrwm.
Mae'n anodd iawn eistedd i lawr a bod yn 'greadigol', maen
rhaid cael ysbrydoliaeth ac yn anaml mae hynny yn cyrraedd.
Ond ar y ffordd i'r gwaith yn ddiweddar gwnaeth yr un peth
ddigwydd i mi a wnaeth ddigwydd i Archimedes ers lawer dydd
- eureka!
Roeddwn i wedi galw yn y siop papur newydd i brynu copi o'r
Western Mail. Fel arfer mae'r papur yn gwneud fy mhoced yn
35c yn ysgafnach ond y tro hyn achos hyrwyddiad arbennig dim
ond 10c roedd o'n fy nghostio i. Wrth gwrs mae safio 25c yn
ddigon i roi gwen ar wyneb unrhyw un a dw i ddim yn eithriad.
Ffordd dda iawn o ddechrau'r diwrnod. Ar y ffordd i'r gwaith
daeth yr ysbrydoliaeth. Os oeddwn i wedi safio 25c wrth brynu
un copi felly dylwn i wedi prynu pedwar copi achos - "Taswn
i wedi prynu pedwar copi mi faswn i wedi safio punt!"
Wel, unwaith mae'r brên yn dechrau gweithio does 'na
ddim stopio a dyma chi stori arall.
Diwedd mis Chwefror mi wnes i newid fy nghar, i ddweud y
gwir roedd rhaid i mi achos y sustem trethi yn y wlad yma
ond gwell i mi ddim dringo ar y bocs sebon yna neu ni fydda
i byth yn dweud y stori. Beth bynnag dw i wedi dod i arfer
â'r car er mae o lawer yn wahanol i'r hen un. Dyma fi
un bore yn meddwl am beth i'w wneud, lle i fynd pan glywais
i'r post yn disgyn trwy'r blwch llythyrau. Biliau, pobl eisiau
gwerthu yswiriant i mi neu eisiau i mi newid fy ngherdyn credit
- yr un hen bethau. Ond yng nghanol hyn i gyd amlen oddi wrth
yr 'Hampshire Constabulary Ticket Office' - tocynnau rhad
ac am ddim ar gyfer ryw sioe hwyrach - go brin! Rhwygais yr
amlen a thu fewn dyma ffurflen yn dweud pethau swyddogol fel
'Notice of Intended Prosecution' ac 'Exceeding a 30 mph Speed
Restriction' ac 'Under Section 172 of the Road Traffic Act
1988'. Brensiach annwyl meddyliais mae hyn yn golygu pwyntiau
ar fy nhrwydded yrru - ond arhoswch funud! Doeddwn i ddim
yn 'Petersfield Road, Greatham, Hampshire' ar y diwrnod hwnnw
ond mae nhw'n dweud 'This Allegation is Supported by Photographic
Evidence' ac wrth gwrs dydy'r camera ddim yn dweud celwydd
nac ydy. Rhaid i mi feddwl am esgus arall.
Wrth i'r panics gostegu a finnau yn dechrau meddwl yn glir
cofiais fy mod i wedi gwerthu'r car cyn hynny ac mae'r gwaith
papur gen i i brofi hynny.
A dyma esiampl arall o 'Taswn i-, mi faswn i-' ond y tro
yma yn y negyddol. "Taswn i ddim wedi gwerthu'r car diwedd
mis Chwefror mi faswn i wedi gorfod talu'r ddirwy."
Chi'n gweld mi wnes i werthu'r car jest mewn pryd! Diolch
byth am hynny.
|