Tachwedd 2000
Teithiau Cerdded
 

 

Ar y 23ain o fis Medi aeth saith ohonon ni ar daith gerdded efo Don Case yn ardal Cemmaes / Cwm Llinau. Wrth edrych allan o'r ffenest yn Llandrindod peth cyntaf yn y bore roedd yr awyr yn ddu ac yn edrych y reit fygythiol ac mae'n rhaid i mi ddweud roeddwn i'n poeni braidd. Roedd y daith yn mynd â ni i fyny at y melinau gwynt uwchben Cemmaes ac wrth reswm mi fydd tipyn o wynt ar y topiau - ond doeddwn i ddim eisiau glaw hefyd! Nid dyna fydd y ffordd gorau i ddechrau tymor o deithiau cerdded.

Ond erbyn i ni gyrraedd am 11.00 roedd y tywydd yn edrych yn well o lawer ac ar ôl i mi gerdded rhyw hanner milltir i fyny'r lôn tuag at y mynydd roeddwn i mor boeth roedd rhaid i mi dynnu fy nghôt. Tipyn bach yn wlyb dan draed ond wedyn dyna rhan o'r hwyl ynte? Roedd y gwynt yn ofnadwy o gryf wrth i ni gyrraedd y fferm wynt ond roedden ni'n disgwyl hynny. Dim ond tair melin oedd yn gweithio ac mae'n anhygoel pa mor enfawr ydyn nhw. Ar ôl ffeindio rhyw gornel gysgodol cawson ni bicnic cyn cael tipyn bach o gerdded ar y top. Mae'n rhyfedd iawn, ar ôl gweld y melinau gwynt o'r lôn yn bell islaw, i fod yno a gweld y wlad o ochr hollol wahanol. Taith braf iawn, yr un gyntaf o'r tymor ac roedd hi'n dda gweld wynebau newydd yn ogystal â'r hen wynebau (os
dach chi'n deall). Roedd 'na lawer o chwerthin, llawer o dynnu coes. Pawb wedi mwynhau.

Ar y 7fed o Hydref roedd yr 'usual suspects' yn cerdded yn ardal Yr Ystog diolch i Bernard Gillespie. Unwaith eto roedd y bore wedi dechrau yn amheus a mi ges i alwad ffôn oddi wrth Elaine Dunn yn Stafford i ddweud bod y tywydd mor ofnadwy yno roedd hi ac Andrew Gully wedi penderfynu aros adref. Fel mae'n digwydd erbyn 11.00 roedd y tywydd wedi gwella a chawson ni daith ardderchog. Roedd 'na 19 ohonon ni, llawer o hwyl a phryd o fwyd ardderchog ym Mellington Hall. Roeddwn i wedi dweud yn y rhaglen nad oedd Mellington Hall yn 'posh', wel doedd hynny ddim cweit yn wir - mae'r lle yn grand iawn ond yng nghanol maes carafannau, er maes carafannau o'r safon uchaf, a hefyd mae Clawdd Offa yn rhedeg wrth ochr y lle felly mae nhw wedi hen arfer â cherddwyr efo sgidiau mwdlyd.Ar fynd i mewn i'r bar roedd 'na rhyw hanner dwsin o bobl yno yn barod, i gyd yn siarad Saesneg a dyma ni wedyn yn disgyn arnyn nhw fel ton fawr Cymraeg. Sôn am wneud gwahaniaeth! Os nad oedden nhw wedi clywed iaith y nefoedd o'r blaen, wel roedden nhw bron ddim ond yn ei chlywed unwaith i ni gyrraedd.

Dowch i gael hwyl efo ni! Mi fydd yna groeso mawr i chi